Gwerthiant Planhigion Llangoed

Dydd Sul, Mai 17eg, 2026


Diwrnod ysbrydoledig a gwyrdd iawn yng Ngwerthiant Planhigion Llangoed! Roedd hi'n hyfryd gweld eginblanhigion pawb, siarad â phobl am y Sioe Flodau sydd ar ddod a phlannu hadau blodau haul corrach gyda chi gyd!

Roedden ni hefyd yn bwynt gwerthu ar gyfer Hwb Hadau Cymru , yn gwerthu hadau treftadaeth, wedi'u tyfu a'u pecynnu yng Nghymru - mae'n brosiect mor arbennig.

Gyda Diolch

Cefnogir Sioe Flodau a Gŵyl y Cynhaeaf Llangoed gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, menter Llywodraeth Cymru yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.

Nesaf
Nesaf

Gwasgu Afalau Cymunedol - Gŵyl y Cynhaeaf 2025