Ynghylch

Rydym yn trefnu amserlen ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i ysbrydoli creadigrwydd a dyfnhau ein cysylltiad â'r byd naturiol. Rydym yn creu cyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd, gan ddysgu oddi wrth ein gilydd ar draws y cenedlaethau.

Roedd Sioe Flodau Llangoed ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf, 2025

Llongyfarchiadau i bob un a gymerodd ran yn sioe eleni. Roedd yn gyfoeth o liw, sgil, amynedd a chreadigrwydd.

Canlyniadau 2025

Diolch hefyd i'r holl feirniaid, ein tîm o wirfoddolwyr, noddwyr y cwpan a'r categori ac i Neuadd Bentref Llangoed!

Gŵyl Gynhaeaf Llangoed
18 a 19 Hydref
gwasgu afalau cymunedol, dathliad ffynnon, llwybr bwganod brain, stondinau, gweithdai a mwy.

Gwybodaeth lawn yn dod yn fuan

Mae'r prosiect hwn wedi cael cefnogaeth gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy , menter gan Lywodraeth Cymru yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.